Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn mynd i fod yn arwain prosiect addysgol newydd gan Wicipedia.
Gobaith y prosiect yw gwella mynediad disgyblion ysgol at wybodaeth Gymraeg ar Wicipedia am hanes Cymru.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn cydweithio â Menter Iaith Môn, CBAC yn ogystal ag arbenigwyr eraill yn y maes.
Drwy weithio gydag arbenigwyr, bwriad y tîm yw cyfuno cynnwys Wicipedia ac adnoddau dysgu personol er mwyn datblygu erthyglau o safon, yn ogystal â deunydd aml-gyfrwng addas i ddisgyblion ysgolion cynradd.
Ar ben hynny bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cyflwyno mewn ysgolion uwchradd.
Maen nhw’n gobeithio tanio diddordeb disgyblion Cyfnod Allweddol 5 a’u hannog i ysgrifennu cynnwys Wicipedia ar gyfer disgyblion iau.
Daw hyn wrth i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu gyhoeddi adroddiad yn galw am ganllawiau llymach ynghylch yr hyn a ddylai gael ei ddysgu mewn gwersi hanes ledled Cymru.
Ac maen nhw am weld Estyn, y corff arolygu, yn cynnal adolygiad er mwyn cael gwell syniad o sut mae’r pwnc yn cael ei ddysgu ar hyn o bryd.