Mae 14 dyn, a thair dynes, wedi cael eu harestio yn Llundain ar amheuaeth o fasnachu pobol.
Cawson nhw eu harestio yn dilyn cyfres o gyrchoedd ledled y ddinas, a bellach mae 29 dynes – oll rhwng 20 a 40 oed – wedi’u hachub.
Mae’r rheiny sy yn y ddalfa rhwng 17 a 50 oed, ac mi gyfrannodd swyddogion yn Romania at y gwaith o’u dal – mae un dyn wedi’i arestio yn y wlad honno.
Yn ogystal â’r cyhuddiad o fasnachu pobol, maen nhw hefyd wedi’u cyhuddo o fod ynghlwm â phuteinio, troseddau cyffuriau dosbarth A, a throseddau arfau.
“Gwnaeth ymgyrch heddiw arwain at gyrchoedd mewn 16 lle yn Llundain, a phedwar lle yn Romania,” meddai Richard McDonagh, Ditectif Prif Arolygydd o’r Heddlu Metropolitan.
“Nod yr ymdrech yma oedd datgymalu rhwydwaith o droseddwyr gydag un ergyd galed, a chynnig cymorth i ddioddefwyr.”