Mae’n “hanfodol bwysig” bod disgyblion yn dysgu am hanes leiafrifoedd Cymru, yn ôl hanesydd amlwg.

Mi fydd un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar ddysgu hanes Cymru   heddiw (dydd Iau, Tachwedd 14) ac mae’r ddogfen honno yn galw am ganllawiau llymach i athrawon.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod hanes lleiafrifoedd ethnig yn cael ei adlewyrchu mewn gwersi hanes Cymru.

Mae Dr Elin Jones yn croesawu’r egwyddor o gynnwys “cymaint o wahanol bersbectifau … ac sy’n bosibl”, a dyw’r sefyllfa sydd ohoni ddim yn ei bodloni.

“Dw i’n meddwl bod hanes lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru wedi cael ei esgeuluso yn ofnadwy,” meddai wrth golwg360. “Dw i’n teimlo’n gryf iawn bod angen dod â’r elfen yna o’n hanes ni i’r amlwg…

“Dw i’n credu ei fod yn hanfodol bwysig oherwydd ei fod yn arwain at wlad sydd – dw i’n gobeithio – yn fwy cynhwysol, yn fwy eangfrydig, yn gweithio yn erbyn yr hiliaeth ofnadwy yma sydd yn amlygu’i hun bellach yng Nghymru – yn ogystal â phob gwlad yn Ewrop ac America.

“Dw i’n croesawu hynny’n fawr iawn.”

Pryder am ddysgu

Er ei bod yn awyddus iawn i weld hanes lleiafrifoedd Cymru’n cael ei hadlewyrchu’n well mewn gwersi, mae gan Dr Elin Jones bryder.

“Os ydym ni’n cael trafferth dysgu hanes Cymru yn ysgolion Cymru, pa mor anodd fydd hi i ddysgu hanes lleiafrifoedd ethnig yn yr un peth?” meddai.

“Dw i’n meddwl bod mawr angen hynny, ond bydd angen arweiniad cadarn, positif ac adeiladol er mwyn gwneud cyfiawnder o’r peth. Ond mae angen ei wneud yn sicr.”

Gallwch ddarllen rhagor am ymateb Dr Elin Jones i’r adroddiad yn rhifyn diweddaraf Golwg.

Argymhellion

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cynnig wyth argymhelliad yn ei adroddiad, ac mae pump o’r rheiny yn gysylltiedig â hanes lleiafrifoedd ethnig a phobol ddu (BME).

Dylai amryw o gefndiroedd a chrefyddau gael eu “hadlewyrchu yn neunydd dysgu” ysgolion Cymru, a dylai Llywodraeth Cymru “amlinellu ei ymdrechion” i gynyddu niferoedd athrawon BME.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am adolygiad i sut mae hanes Cymru’n cael ei ddysgu ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled y wlad, ac mae’n dweud bod angen ystyried hanes BME wrth wneud hyn.