Mae teithwyr wedi cael eu rhybuddio i gymryd gofal wedi i eira ddisgyn dros nos mewn rhannau o Gymru.

Mae rhybudd tywydd eira mewn grym mewn 11 sir yng Nghymru, tra bod rhybudd am law mewn grym mewn 13 sir.

Bydd y rhybudd tywydd eira yn para hyd at 10.00yb, a bydd y rhybudd am law yn para tan tua chanol nos.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud ei fod yn derbyn “nifer fawr o alwadau am achosion sydd yn gysylltiedig â’r tywydd”.

Ac mae’r heddlu yn Ystradgynlais wedi dweud bod y tywydd yn peri “peryglon cudd” ac yn annog pobol i beidio mynd allan oni bai bod yn rhaid.

Maen nhw hefyd wedi derbyn adroddiadau am gerbydau sydd yn sownd mewn eira yng Nghoelbren, Ystradgynlais a “sawl lleoliad arall”.

Hyd yma does dim un ysgol wedi gorfod cau oherwydd yr amodau tywydd.