Mae campwaith gan yr artist Sandro Botticelli wedi cael ei ddarganfod yng Nghymru.

Roedd y llun, sy’n 400 oed, wedi gwneud ei ffordd o stiwdio Sandro Botticelli yn Fflorens yn yr Eidal i gasgliad celf Gwendoline Davies yng Nghaerdydd. Roedd hi wedi rhoi’r llun i’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Cafodd y llun, sy’n portreadu delwedd o Madonna, ei gamgymryd am gopi yn wreiddiol.

Ond mae arbenigwyr sy’n gweithio i raglen BBC 4 Britain’s Lost Masterpieces wedi dweud ei fod yn un gwreiddiol.

Dywed Dr Bendor Grosvenor, sy’n cyflwyno’r sioe ar y cyd: “Pan welais y darlun am y tro cyntaf, cefais fy nharo gan brydferthwch wyneb Madonna.

“Mae rhannau ohono yn fy atgoffa o ddarlun enwocaf Botticelli, The Birth of Venus.”