Mae’r gwasaneth tân wedi symud 30 o bobol o’u cartrefi yn dilyn tân mewn bloc o fflatiau yn ne Llundain.
Cawson nhw eu galw i ardal Vauxhall am 1.42 fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 10).
Roedd fflat ar bedwerydd llawr yr adeilad ar dân.
Fe fu oddeutu 60 o ddiffoddwyr yn ceisio diffodd y fflamau.
Roedd cryn ddifrod i’r fflat, ond cafodd pawb eu hachub.
Bu’n rhaid i un ddynes dderbyn triniaeth gan barafeddygon.
Mae ymchwiliad ar y gweill.