Ymgais Catalwnia am annibyniaeth sydd ar frig agenda’r pleidiau gwleidyddol sy’n brwydro yn etholiad cyffredinol Sbaen heddiw – y pedwerydd pleidlais o fewn pedair blynedd.
Y prif weinidog Pedro Sanchez sydd wedi galw’r etholiad, a’r disgwyl yw y gallai’r blaid asgell dde eithafol Vox ennill tir wrth iddyn nhw barhau i frwydro yn erbyn annibyniaeth i Gatalwnia a rhyddid i fewnfudwyr.
Enillodd y prif weinidog Sosialaidd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn yr etholiad diwethaf yn Sbaen, ond wnaeth e ddim ennill digon o seddi i ffurfio llywodraeth.
Mae disgwyl iddo ennill unwaith eto, ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd ganddo fe ddigon o seddi’r tro hwn i allu ffurfio llywodraeth.
Gallai hyd at 35% o boblogaeth y wlad gadw draw o’r etholiad, sy’n gynnydd o 7% o’i gymharu â’r etholiad diwethaf fis Ebrill.
Vox
Daeth plaid Vox yn fwy poblogaidd yn yr etholiad diwethaf, gan ennill 24 o seddi.
Maen nhw’n gwrthwynebu annibyniaeth i Gatalwnia a rhagor o ryddid i fewnfudwyr.
Mae eu llwyddiant yn dilyn yr un patrwm â phleidiau asgell dde mewn rhannau eraill o Ewrop.
Gallai plaid Santiago Abascal gynyddu eu seddi’r tro hwn o ganlyniad i fater annibyniaeth Catalwnia a’r helynt sydd wedi bod yn sgil codi gweddillion Franco fis diwethaf.
Mae Vox yn clymbleidio mewn rhai ardaloedd er mwyn cryfhau eu gafael.