Mae dynes a fu farw mewn llifogydd yn Swydd Derby wedi cael ei henwi fel Annie Hall, cyn-uchel siryf y sir.
Cafwyd i’w chorff yn oriau mân fore ddoe ar ôl iddi gael ei hysgubo ymaith gan ddŵr yn Darley Dale, ger Matlock.
Fe ddigwyddodd y trychineb wrth i rannau o ganolbarth a gogledd Lloegr gael cymaint o law y gellid ei ddisgwyl mewn mis ddisgyn mewn un diwrnod.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd Prif Gwnstabl Swydd Derby, Peter Goodman:
“Sioc a thristwch mawr i mi yw marwolaeth cynamserol a thrychinebus fy ffrind, a’r cyn-uchel Siryf Annie Hall.
“Roedd hi’n arweinydd diwydiannol a dinesig gwych yn Swydd Derby, ac fe fydd colled fawr ar ei hôl.”