Mae mwy na 100 o rybuddion llifogydd mewn grym, yn bennaf yn Swydd Efrog, wrth i’r glaw trwm yn yr ardal barhau i achosi trafferthion dros nos.
Mae nifer o bobol wedi gorfod gadael eu cartrefi a ffyrdd wedi cau wedi’r cyfnod gwlypaf ers blynyddoedd mewn rhannau o Swydd Efrog a chanolbarth Lloegr.
Mae cyfanswm o 116 o rybuddion llifogydd mewn grym, meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
Ddydd Iau (Tachwedd 7) bu’n rhaid i drigolion adael 35 o gartrefi yn Mansfield ar ôl tirlithriad yn yr ardal a bu cannoedd o bobol yn cael lloches yng nghanolfan siopa Meadowhall yn Sheffield oherwydd llifogydd ar y ffyrdd a thagfeydd traffig.
Bu’n rhaid i’r ganolfan siopa ganslo ei digwyddiad Nadolig ar y funud olaf nos Iau ond erbyn hynny roedd cannoedd o bobol eisoes wedi cyrraedd.
Dywedodd yr heddlu bod rhai pobol wedi cael eu gorfodi i aros yn y ganolfan siopa dros nos ar ôl methu gadael y maes parcio.
Fe fu trafferthion oherwydd y llifogydd yn Doncaster hefyd ac roedd Afon Don wedi gorlifo’i glannau gan achosi llifogydd yng ngorsaf drenau Rotherham ac ardaloedd eraill.
Bu’n rhaid defnyddio cychod i helpu symud pobol o ganolfan siopa Parkgate yn Rotherham neithiwr ar ôl iddyn nhw fynd yn sownd oherwydd y llifogydd.
Mae disgwyl i’r glaw glirio erbyn amser cinio ond fe fydd rhybuddion llifogydd mewn lle am rai dyddiau eto, meddai’r Swyddfa Dywydd.