Mae dyn 40 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 36 oed ar ôl gyrru car at adeilad tafarn yn Essex.
Bu farw’r dyn 36 oed yn y fan a’r lle yn y Spinnaker yn Colchester.
Cafodd dyn 34 oed ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau a fydd yn newid ei fywyd, yn ôl yr heddlu.
Cafodd dynes 34 oed a dyn 33 oed fan anafiadau.
Fe ddigwyddodd toc ar ôl 12.50 fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 3), ac fe fu’n rhaid cau’r ffordd am rai oriau.
Mae’r dyn sydd wedi cael ei arestio wedi’i amau o achosi niwed corfforol difrifol a marwolaeth drwy yrru’n beryglus, yn ogystal ag ymosod.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am gar Nissan Qashqai yn yr ardal ar adeg yr ymosodiad.