Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl saethu at gar a darodd ferch 12 oed yng Nglannau Mersi.

Roedd y ferch allan yn dathlu Calan Gaeaf yn ardal Toxteth pan gafodd ei tharo gan y car.

Mae dyn 28 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn yr achos o saethu am 7.50 nos Iau (Hydref 31).

Roedd y car VW Golf yn cael ei yrru ar hyd y stryd lle’r oedd y ferch yn cerdded.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ar ôl cael ei hanafu’n ddifrifol, ond dydy ei bywyd ddim mewn perygl.

Mae dyn arall wedi cael anafiadau i’w wyneb.