Mae protestwyr yn Hong Kong wedi targedu swyddfa asiantaeth newyddion Xinhua o Tsieina wrth i brotestiadau yn y wlad barhau.
Fe fu protestiadau ar y gweill ers misoedd.
Roedd cyntedd y swyddfa ar dân, a chafodd ffenestri eu torri a graffiti wedi’i chwistrellu ar waliau’r adeilad.
Mae banciau a busnesau eraill hefyd wedi cael eu targedu dros y misoedd diwethaf, a hynny yn sgil eu cysylltiadau â Tsieina.
Mae’r wlad yn cael ei chyhuddo o ymyrryd â rhyddid trigolion Hong Kong fel rhan o’r cytundeb annibyniaeth yn 1997.
Fe fu’n rhaid i’r heddlu ddefnyddio canonau a nwy ddagrau er mwyn tawelu’r protestwyr wrth iddyn nhw daflu bomiau petrol atyn nhw.
Mae’r protestwyr hefyd wedi bod yn anwybyddu’r gyfraith sydd wedi gwahardd mygydau.
Mae mwy na 3,000 o bobol wedi cael eu harestio fel rhan o’r protestiadau erbyn hyn.