Mae Llywodraeth Geidwadol Prydain dan bwysau i sicrhau bod y gwaharddiad dros dro ar ffracio’n dod yn un parhaol.
Mae Llafur yn gofidio mai tacteg etholiadol yw’r gwaharddiad dros dro.
Yn ôl Andrea Leadsom, Ysgrifennydd Busnes San Steffan, mae’r gwaharddiad yn ei le “hyd nes bod gwyddoniaeth yn newid”.
Ac mae’n dilyn ymchwil gan yr Awdurdod Olew a Nwy, sydd wedi codi pryderon am y gallu i ddarogan daeargrynfeydd sy’n gysylltiedig â ffracio.
Mae ffracio’n bolisi gan y Ceidwadwyr ers blynyddol, gyda’r prif weinidog Boris Johnson yn gefnogwr brwd.
Pryderon Llafur
Ond yn ôl y Blaid Lafur, mae angen i’r Ceidwadwyr “ddal i fyny” gyda’r polisi o alw am waharddiad parhaol.
“Mae’n ymddangos bod hwn yn un dros dro,” meddai John Healey, llefarydd tai Llafur wrth Radio 4.
“Mae’n bosib nad gohirio go iawn yw hwn.
“Rhaid i chi gofio fod Boris Johnson wedi dweud rywdro nad oedd e am adael yr un garreg heb ei throi na’i ffracio, felly rwy’n ofni y gallai hwn fod yn agoriad ar ddechrau’r etholiad ac y gallen ni weld ei fod e’n gwneud rhywbeth gwahanol i’r hyn mae’n ei ddweud nawr.”
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw am waharddiad parhaol, ac mae ymgyrchwyr amgylcheddol hefyd yn croesawu’r gwaharddiad dros dro.