Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi dweud ei fod yn fodlon cefnogi cais Boris Johnson i gynnal etholiad cyffredinol ddechrau mis Rhagfyr.
Fe ddaw hyn wedi i Brif Weinidog Prydain alw deirgwaith am fynd i’r pôl – ac iddo fethu, deirgwaith, i sicrhau cefenogaeth dwy ran o dair aelodau Ty’r Cyffredin.
Mae Jeremy Corbyn wedi dweud wrth gabinet yr wrthblaid heddiw (dydd Mawrth, Hydref 29) ei fod wedi’i fodloni na fedr Boris Johnson sleifio Brexit heb gytundeb trwy’r Senedd.
“Rydyn ni nawr wedi clywed gan yr Undeb Ewropeaidd fod estyniad Erthygl tan ddiwedd Ionawr yn bendant, a bod Brexit heb gytundeb hefyd wedi’i dynnu oddi ar y bwrdd,” meddai Jeremy Corbyn.
“Fe allwn ni, nawr, lansio’r ymgyrch etholiadau fwya’ uchelgeisiol a radical a welodd Brydain erioed.”