Mae peirianwyr Thames Water wedi tynnu mynydd braster yn pwyso 40 tunnell allan o system garthffosiaeth Llundain.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r lwmp o fraster, saim a deunyddiau eraill, yn gynharach eleni mewn carthffos danddaearol yn Greenwich.

Fe gymerodd hi dair wythnos i weithwyr Thames Water ei glirio, gan ddefnyddio cyfuniad o jetiau dŵr pwerus i’w chwythu’n rhydd a chael gwared â darnau ohono â llaw.

Mae mynyddoedd braster yn cael eu ffurfio pan fydd braster, olew a saim yn cael eu tywallt i lawr sinciau a thraeniau ac yn cyfuno ag eitemau na ddylid eu fflysio i lawr y toiled, fel cadachau gwlyb, cewynnau a ffyn cotwm.