Mae disgwyl i yrrwr lori fynd o flaen ei well heddiw (dydd Llun, Hydref 28) wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â marwolaeth 39 o bobol a gafodd eu darganfod yng nghefn lori yn Essex.
Mae Maurice ‘Mo’ Robinson o ardal Craigavon yng Ngogledd Iwerddon wedi ei gyhuddo o 39 achos o ddynladdiad, masnachu pobol, cynllwynio i gynorthwyo mewnfudo anghyfreithlon, a gwyngalchu arian.
Cafodd y cyrff eu darganfod mewn parc diwydiannol yn ardal Grays yn ystod yr oriau mân fore Mercher (Hydref 23).
Mae Heddlu Essex, sy’n arwain yr ymchwiliad, wedi cadarnhau bod dyn o Ddulyn wedi cael ei arestio gan yr awdurdodau yn Iwerddon ddydd Sadwrn (Hydref 26). Mae’n “berson o ddiddordeb” i’r ymchwiliad, medden nhw.
Cafodd tri pherson arall eu harestio mewn cysylltiad â’r marwolaethau hefyd, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Ymchwiliad yn parhau
Mae’r gwaith o adnabod y cyrff yn parhau. Yn wreiddiol, roedd yr heddlu o’r farn bod yr wyth dynes a’r 31 dyn yn hanu o Tsieina, ond mae bellach lle i gredu bod rhai o Fietnam ymhlith y meirw.
Mae teuluoedd o Fietnam wedi mynegi pryder am eu hanwyliaid sydd wedi diflannu. Mae’n debyg bod rhai o’r dioddefwyr wedi talu miloedd o bunnau er mwyn cael eu cludo i wledydd Prydain.
Mae’r heddlu hefyd yn ymchwilio i honiadau y gallai’r lori fod yn rhan o gonfoi o dri a oedd yn cario tua 100 o bobol.