Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio’n ddiweddarach heddiw (dydd Llun, Hydref 28) ar gynnig i gynnal etholiad cyffredinol cynnar ym mis Rhagfyr.
Fe fyddai angen 434 o bleidleisiau yn Nhŷ’r Cyffredin i sicrhau etholiad ar Ragfyr 12.
Yn y cyfamser, mae llysgenhadon yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn cwrdd i drafod oedi pellach i Brexit tan ddiwedd mis Ionawr.
Mae Boris Johnson wedi mynnu sawl gwaith ei fod yn benderfynol o adael ar Hydref 31.
Mae’n annhebygol y bydd y Prif Weinidog yn sicrhau digon o gefnogaeth ar gyfer etholiad cynnar. Mae diffyg cefnogaeth y Blaid Lafur yn golygu y bydd y cais yn cael ei drechu pan fydd Aelodau Seneddol yn bwrw pleidlais heno.
Ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r SNP wedi cyflwyno Bil a fyddai’n caniatáu etholiad ar Ragfyr 9 cyhyd a bod yr UE yn caniatáu oedi Brexit tan Ionawr 31.
Mae’n golygu y byddai angen cefnogaeth gan 320 o Aelodau Seneddol i sicrhau etholiad cynnar. Mae’r Bil yn debygol o gael ei basio heb gefnogaeth Llafur.