Cynnal ail refferendwm yw’r unig ffordd o ddatrys Brexit, yn ôl Jonathan Edwards, aelod seneddol Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Daw ei sylwadau wrth i’r pleidiau gwleidyddol ystyried taro bargeinion â’i gilydd wrth wynebu’r posibilrwydd o etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr.
Mae Boris Johnson wedi cynnig rhagor o amser i ystyried Brexit – o bosib hyd at fis Ionawr – os yw aelodau seneddol yn barod i gytuno mai ar Ragfyr 12 y bydd yr etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal.
Ond mae Jonathan Edwards yn dweud na fyddai etholiad cyffredinol ar hyn o bryd “yn datrys dim byd”.
“Os rhywbeth, wnaiff e’r sefyllfa’n fwy ansefydlog a’r unig ffordd, mewn gwirionedd, i ddatrys y sefyllfa yw drwy refferendwm,” meddai wrth golwg360.
“Os y’ch chi’n mynd i gael digwyddiad democrataidd, ry’n ni [Plaid Cymru] wastad yn dweud taw refferendwm yw’r ffordd ymlaen yn hytrach nag etholiad.
“Mae pleidlais heno ar gais y llywodraeth [ar gynnal etholiad cyffredinol]. Er mwyn i hwnna ennill, mae angen [cefnogaeth] dau ran o dri o aelodau seneddol.
“Dyw hwnna ddim yn mynd i gario.”
Pe bai’r broses Brexit yn cael ei ymestyn am gyfnod byr, mae Jonathan Edwards yn dweud y gallai Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fanteisio ar reolau amser i “orfodi sefyllfa o ddewis rhwng ei gytundeb e neu dim cytundeb”.
“Yn hynny o beth, mae’n dweud wrth y Senedd, ‘Gwrandewch bois, os y’ch chi’n gwella’r ddeddf, wna’i jyst tynnu’r ddeddf ’nôl. Byddai’r cloc yn rhedeg ma’s, ac rydych chi ma’s heb gytundeb.”
Mae’n dweud mai dyna ffordd yr SNP a’r Democratiaid Rhyddfrydol o feddwl wrth ystyried cytundebau rhwng pleidiau mewn etholiad.
Serch hynny, mae Ian Blackford, arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn dweud mai ar eu telerau nhw ac “nid ar delerau Boris Johnson” y byddai cytundeb o’r fath yn digwydd.
Diffyg arweiniad yn y Blaid Lafur
Tra bod safbwyntiau’r Ceidwadwyr, yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi dod yn glir, mae Jonathan Edwards yn dweud bod y Blaid Lafur, o dan Jeremy Corbyn, yn dioddef o “ddiffyg arweiniad”.
Doedd y blaid ddim wedi cadarnhau tan neithiwr (nos Sul, Hydref 27) beth yw eu barn am sefydlu cytundebau etholiadol.
Wrth ddatgan safbwynt ei blaid, dywed Jeremy Corbyn fod y Blaid Lafur yn “barod i frwydro” ar eu pennau eu hunain mewn etholiad – ond nid cyn bod Brexit heb gytundeb yn cael ei dynnu oddi ar y bwrdd.
“Dw i ddim yn deall beth yw polisi’r Blaid Lafur,” meddai Jonathan Edwards.
“Methiant eu harweinydd nhw sy’n galluogi Boris Johnson i wneud beth mae e’n ei wneud.
“Beth yn union yw polisi’r Blaid Lafur ar unrhyw beth i wneud â Brexit?
“Dy’n ni ddim yn gwybod beth yw eu safbwynt nhw o ran etholiad, o ran refferendwm, o ran Brexit…
“Amser y’ch chi’n edrych ar fathemateg y Senedd, mae’r Ceidwadwyr â lleiafrif o dros 40 o aelodau seneddol ond eto, mae Boris Johnson yn dal mewn sefyllfa lle mae’n gallu gweithredu.
“Un o’r pethau dw i wedi bod yn sôn amdano am gyfnod yw’r angen am greu llywodraeth amgen ac mae’r niferoedd yna i wneud rhywbeth o’r fath a chymryd Boris Johnson allan o bŵer.
“Ond y broblem yw fod Jeremy Corbyn ond yn fodlon cefnogi hyn os mai fe yw’r prif weinidog.”
“Chwarae gemau”
Mae hyn oll, meddai Jonathan Edwards, yn golygu y gall Boris Johnson “chwarae gemau”.
“Y cwestiwn mawr sy’n synnu fi yw pam dyw e ddim yn dod â’r cytundeb ’nôl ar ôl trafod gyda’r gwrthbleidiau faint o amser maen nhw’n moyn i sgriwtineiddio fe.
“Dyna fyddai rhywun normal yn gwneud ond y gwir yw fod Boris Johnson yn chwarae gemau trwy’r cyfan hyn i gyd.
“Beth mae’n ceisio gwneud yw adeiladu’r naratif niweidiol fod y gwleidyddion yn San Steffan yn erbyn y bobol.
“Mae goblygiadau rhyfeddol i’r math yma o naratif a rhethreg o ran beth y’n ni’n gweld mewn arolygon o ran trais yn erbyn gwleidyddion ac ati.
“I fi, mae dewisiadau eraill heblaw etholiad ond, wrth gwrs, mae pobol eraill yn meddwl fel arall.”
Beth am farn y bobol?
Os yw barn y pleidiau gwleidyddol yn amwys, mae barn y bobol ychydig yn fwy eglur.
Mae’r mwyafrif o bleidleiswyr yn gwrthwynebu cytundebau etholiadol rhwng pleidiau ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, yn ôl arolwg newydd.
Dim ond 31% o’r bobol a gafodd eu holi gan y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol sy’n dweud y dylai un blaid gamu o’r neilltu i helpu plaid arall mewn rhai seddau.
Mae 44% o’r bobol wnaeth ymateb yn dweud y dylai pob plaid sefyll ym mhob sedd, hyd yn oed os yw hynny’n golygu ei bod yn llai tebygol y bydd aelod seneddol yn cael ei ethol sy’n rhannu eu daliadau gwleidyddol.
25% o bobol sy’n dweud nad ydyn nhw’n sicr a yw cytundebau etholiadol yn syniad da neu beidio, o’i gymharu â 31% ym mis Awst.
Yn ôl yr arolwg, mae 25% yn dweud y byddan nhw’n pleidleisio mewn modd tactegol yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gyda mwy na 20% wedi gwneud hynny yn 2017, yn ôl polau piniwn.