Mae tri o bobol a gafodd eu harestio ar ôl i 39 o gyrff gael eu canfod yng nghefn lori yn Essex wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd dyn a dynes 38 oed o Warrington a dyn 46 oed o Ogledd Iwerddon eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad a masnachu pobol ddydd Gwener (Hydref 25).

Cafodd y tri eu rhyddhau ar fechnïaeth tan fis Tachwedd.