Fe wnaeth Abu Bakr al-Baghdadi ffrwydro fest gan ladd ei hun a thri o’i blant, yn ôl Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau.
Mae cynhadledd i’r wasg wedi’i chynnal yn Washington, lle eglurodd Donald Trump fod cyrchoedd yn Syria wedi gweld un o ddynion mwyaf peryglus y byd yn marw.
Mae’n dweud ei fod e’n “llawn ofn” yn ei funudau olaf, yn “wylo ac yn crio” fel “llwfrgi yn rhedeg”.
Eglurodd fod ei gorff wedi cael ei adnabod, a bod y byd yn lle mwy diogel erbyn hyn.
Fe ddisgrifiodd y profiad o weld y cyrch yn mynd rhagddo “fel pe baech chi’n gwylio ffilm”, ac mae’n awgrymu y bydd fideo yn cael ei ryddhau fel neges i unrhyw un sy’n debygol o efelychu arweinydd Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.
Mae’n debyg fod awdurdodau’r Unol Daleithiau wedi bod yn gwylio symudiadau Abu Bakr al-Baghdadi ers rhai wythnosau yn nhalaith Idlib.