Mae gardd goffa yn cael ei hagor flwyddyn ar ôl i bump o bobol gael eu lladd mewn damwain hofrennydd y tu allan i Stadiwm King Power, cartref Clwb Pêl-droed Leicester City.

Bu farw’r perchennog Vichai Srivaddhanaprabha, Kaveporn Punpare, Nusara Suknamai, ynghyd â’r peilot Eric Swaffer ac Izabela Lechowicz.

Bydd seremoni’n cael ei chynnal, a’r ardd ar agor i’r cyhoedd rhwng 2 a 5 o’r gloch bob dydd wedyn.

Mae disgwyl i adroddiad ar y gwrthdrawiad gael ei gyhoeddi’r flwyddyn nesaf yn dilyn ymchwiliad.