Mae dyn 22 oed wedi ymddangos gerbron llys, wedi’i gyhuddo o drywanu dau lanc 17 oed i farwolaeth mewn parti ym Milton Keynes.
Mae Earl Bevans wedi’i gyhuddo o lofruddio Dom Ansah a Ben Gillham-Rice y penwythnos diwethaf (dydd Sadwrn, Hydref 19).
Bu farw Dom Ansah o anafiadau i’w gefn, tra bod Ben Gillham-Rice wedi cael ei drywanu yn ei frest.
Roedd Earl Bevans yn gleisio i gyd yn Llys Ynadon High Wycombe, lle cadarnhaodd ei enw, ei ddyddiad geni a’i gyfeiriad ansefydlog.
Mae wedi’i gyhuddo o ddau achos o lofruddio, a dau achos o geisio llofruddio ar ôl i Ryan Brown, 23, a llanc 17 oed gael eu hanafu.
Dydy Earl Bevans ddim wedi cyflwyno ple, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa cyn mynd gerbron Llys y Goron Luton ddydd Llun (Hydref 28).
Cafodd Charlie Chandler, 21, ei gadw yn y ddalfa ddoe (dydd Gwener, Hydref 25), wedi’i gyhuddo o ddau achos o lofruddio a dau achos o geisio llofruddio.
Mae Heddlu Dyffryn Tafwys yn bygwth enwi rhagor o bobol sydd wedi’u hamau o fod â rhan yn y digwyddiad oni bai eu bod yn mynd at yr heddlu.