Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio am y perygl o lifogydd yng Nghymru heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 26).
Daeth y rhybudd melyn i rym ddoe ac mae disgwyl iddo fod yn ei le tan ddiwedd y prynhawn.
Fe fu rhybudd oren yn ei le hefyd am law trwm, a hwnnw’n dod i ben ddiwedd y bore.
Mae’r rhybuddion yn dweud bod llifogydd yn debygol yn y de, ac mae disgwyl i drafnidiaeth gyhoeddus gael ei heffeithio, gydag amodau gyrru hefyd yn wael mewn rhai llefydd.
Yn ogystal, fe allai’r sefyllfa gael ei gwaethygu gan wyntoedd cryfion o’r de orllewin.
Rhybuddion Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi rhybuddion am lifogydd.
Mae’r rhain yn eu lle ar gyfer ardaloedd Cwmtwrch, Afon Wysg, Llangadog, Llandeilo a Phont Clydach, yn ogystal ag Afon Gwy rhwng Aberhonddu a Glangrwyne.
Fe fu pedwar rhybudd yn y de ddwyrain, tri yn y gogledd ac 17 yn y de orllewin.