Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n dweud bod llun yn sarhau Emiliano Sala, diweddar ymosodwr Caerdydd, sydd wedi ymddangos ar y we ar drothwy eu gêm ddarbi yn erbyn Caerdydd yn “gywilyddus”.
A dywed Heddlu’r De eu bod nhw’n ymchwilio i’r ddelwedd.
Mae’r llun yn dangos tocyn teithio ffug yn dwyn enw’r chwaraewr a gafodd ei ladd pan blymiodd ei awyren i’r Sianel ger Guernsey ar Ionawr 21.
Ar y tocyn mae’r rhif taith ‘D3AD’, ac enw’r peilot yw Mikey Dye, sy’n cyfeirio at gefnogwr Caerdydd a fu farw yn dilyn ymosodiad ger stadiwm Wembley yn 2011.
Datganiad
Mewn datganiad, mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n beirniadu’r sawl sy’n gyfrifol.
“Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n ymwybodol o’r ddelwedd gywilyddus sydd ar led ar y cyfryngau cymdeithasol cyn gêm ddarbi de Cymru ddydd Sul, mewn perthynas â marwolaeth drist ymosodwr Caerdydd, Emiliano Sala,” meddai llefarydd.
“Rydym yn cydweithio’n agos â Heddlu’r De a fydd yn cynnal ymchwiliad i adnabod y ffynhonnell wreiddiol.
“Mae’r ddelwedd yn gywilyddus ac nid yw’n cynrychioli’r clwb pêl-droed hwn na’n cefnogwyr mewn unrhyw ffordd.”
Heddlu’n ymchwilio
Mae Heddu’r De wedi cadarnhau bod ymchwiliad ar y gweill.
“Mae Heddlu’r De yn ymwybodol ac wedi adolygu delwedd ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud ag Emiliano Sala, ac rydym yn ymchwilio mewn perthynas â throsedd yn unol â’r Ddeddf Cyfathrebu Maleisus,” meddai llefarydd.
“Byddwn yn cydweithio’n agos â chlybiau pêl-droed Abertawe a Chaerdydd i adnabod y ffynhonnell.
“Rydym yn atgoffa pobol i beidio â rhannu’r ddelwedd gan y gallen nhw fod yn cyflawni trosedd.”