Mae dau arall wedi cael eu harestio ar ôl i 39 o gyrff gael eu darganfod yng nghefn lori yn Essex.
Mae gyrrwr y lori, sydd wedi cael ei enwi’n lleol fel Mo Robinson, 25, o Ogledd Iwerddon, yn dal i fod yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae Heddlu Essex hefyd wedi cadarnhau bod dyn a dynes – y ddau ohonyn nhw’n 38 oed ac yn dod o ardal Warrington yn Swydd Gaer – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ddynladdiad a smyglo pobol.
Mae Joanna a Thomas Maher, sy’n byw yn Warrington, yn honni eu bod nhw wedi gwerthu’r lori Scania, a gafodd ei chofrestru ym Mwlgaria, i gwmni yn Iwerddon.
Dywedodd Joanna Maher wrth y MailOnline ddydd Iau (Hydref 24) eu bod nhw wedi gwerthu’r lori ers blwyddyn a mwy.
Y dirgelwch yn parhau
Mae ymchwiliad rhyngwladol yn cael ei gynnal ar ôl i’r cyrff gael eu darganfod mewn treilar yn ardal Grays, Essex, yn gynnar fore Mercher (Hydref 23).
Yn ôl yr heddlu, mae lle i gredu bod yr wyth dynes a’r 31 dyn a fu farw yn hanu o Tsieina.
Maen nhw hefyd o’r farn bod y treilar wedi cyrraedd Purfleet o borthladd Zeebrugge yng Ngwlad Belg am tua 12.30yb ddydd Mercher, tra bo rhan ffrynt y lori wedi dod o Ogledd Iwerddon, gan deithio trwy Gaergybi, ddydd Sul (Hydref 20)
Gadawodd y lori borthladd Purfleet yn fuan wedi 1.05yb, cyn i swyddogion gael eu galw i Barc Diwydiannol Waterglade yn Grays am 1.40yb.