Mae’r rhan gyntaf o gampws gwyddonol gwerth £40.5m ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach wedi cael ei hagor yn swyddogol.
Yn bresennol yn agoriad Campws Arloesi a Menter Aberystwyth heddiw (dydd Gwener, Hydref 25) oedd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
Wedi ei leoli ar Gampws Gogerddan, mae’r cyfleusterau newydd ar gyfer y sectorau biotechnoleg, technoleg amaeth, a bwyd a diod.
Mae’r datblygiad yn cynnwys dwy ganolfan ymchwil newydd, sef:
- Canolfan Bioburo ArloesiAber – a fydd yn canolbwyntio ar droi gwastraff llystyfiant a deunyddiau naturiol eraill yn gynnyrch diwydiannol, fel plastigau, ychwanegion bwyd, cynhyrchion fferyllol a chemegau arbenigol;
- Y Biobanc Hadau – a fydd yn gartref i 35,000 o wahanol fathau o hadau sydd wedi cael eu casglu dros gyfnod o bob cwr o’r byd.
Mae Canolfan Bioburo ArloesiAber hefyd yn gartref i brosiect BEACON, sydd newydd dderbyn £3.7m o arian yr Undeb Ewropeaidd er mwyn parhau tan 2022.
Buddsoddi mewn ymchwil
“Rydym yn chwilio’n barhaus am ffyrdd arloesol o gwrdd â her newid hinsawdd, ac i sicrhau’r budd mwyaf posib ar gyfer lle Cymru wrth i ni newid i fod yn economi carbon isel,” meddai Jeremy Miles.
“Rydym yn falch iawn o weithio gyda’n partneriaid i gyflawni hyn; drwy gefnogi arloesedd cynnyrch a thwf economaidd, a helpu i sicrhau swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel i bobol Cymru, tra’n gwneud defnydd llawn o’r adnoddau naturiol yn y rhanbarth.”
Dywed yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, fod agoriad y rhan gyntaf o Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth yn “garreg filltir bwysig”.