Mae’r Undeb Ewropeaidd yn cytuno bod angen gohirio Brexit, ond fyddan nhw ddim yn pennu dyddiad newydd tan yr wythnos nesaf, yn ôl adroddiadau.
Dywed llefarydd ar ran y Comisiwn Ewropeaidd fod llysgenhadon “wedi cytuno i’r egwyddor o gael estyniad” ac y bydd eu gwaith yn “parhau yn y dyddiau nesaf”.
Mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd mewn llai nag wythnos ar Hydref 31.
Y penwythnos diwethaf, bu’n rhaid i Boris Johnson ofyn yn anfoddog am estyniad ar ôl iddo fethu â chael Aelodau Seneddol i gymeradwyo ei fargen Brexit.
Mae’r Prif Weinidog bellach wedi dweud ei fod eisiau cynnal etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12, ac mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar y mater yr wythnos nesaf.
Mae rhai adroddiadau yn awgrymu bod yr Undeb Ewropeaidd yn aros am ganlyniad y bleidlais honno cyn penderfynu ar ddyddiad Brexit newydd.