Mae yna rwygiadau o fewn Llywodraeth San Steffan ynghylch eu camau Brexit nesaf, yn ôl adroddiadau.

Ar dydd Mawrth (Hydref 22) cafodd cynllun y Llywodraeth i wthio’i Bil Brexit trwy’r senedd ei rhwystro gan Aelodau Seneddol.

Ac yn awr mae’r Undeb Ewropeaidd yn ystyried rhoi estyniad i ddyddiad yr ymadawiad – Hydref 31 yw’r dyddiad terfyn ar hyn o bryd.

Mae’r Boris Johnson eisiau tanio etholiad cyffredinol os bydd yr estyniad yn para tan fis Ionawr, ond bellach mae wedi dod i’r amlwg fod ei swyddogion a’i weinidogion yn anghytûn tros y mater.

Rhaniadau

Mae’n debyg bod Dominic Cummings, prif ymgynghorydd y Prif Weinidog, am i’r Llywodraeth alw etholiad a rhoi’r gorau i geisio pasio’r ddêl.

Ar yr ochr arall mae Julian Smith, Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, sy’n galw ar y Prif Weinidog i ddal ati i geisio pasio’r Bil yn y senedd.

Mae rhai Ceidwadwyr yn ofni pe bai etholiad yn cael ei alw cyn yr ymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd y byddai y Brexit Party yn elwa yn fawr.