Mae dyn o Ogledd Iwerddon yn dal i fod yn y ddalfa wedi i 39 corff gael eu darganfod mewn lori yn ne ddwyrain Lloegr.
Mo Robinson, 25, o Portadown, oedd gyrrwr y cerbyd, ac mae Heddlu Essex yn dal i’w holi ar amheuaeth o lofruddio.
Mae’r heddlu hefyd wedi cynnal chwiliadau ar ddau gyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon, ac y gred yw bod y rhain yn gysylltiedig â’r arestiad.
Yn ôl ditectifs, gwnaeth trelar y lori gyrraedd Purfleet, Lloger, am 12.30 y bore dydd Mercher (Hydref 24).
Roedd y trelar wedi cael ei gludo o wlad y Belg, tra’r oedd blaen y lori wedi teithio o Ogledd Iwerddon.
Gwnaeth y lori – ynghyd a’r trelar – adael Purfleet wedi 1.05 y bore, a chafodd swyddogion eu galw hanner awr wedi hynny wedi i staff ambiwlans ddod o hyd i’r cyrff ar ystâd ddiwydiannol ger Grays.
Yn wreiddiol roedd heddlu yn credu bod y lori wedi teithio i’r Deyrnas Unedig trwy Gaergybi, ond bellach mae wedi dod i’r amlwg ei bod wedi teithio’n syth o’r cyfandir.