Mae’r Senedd yn San Steffan yn ymgynnull ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd heddiw, wrth i Boris Johnson aros i weld a fydd sêl bendith i’w fargen ar Brexit.
Mae prif weinidog Prydain yn galw ar bleidiau ar bob ochr i’r Senedd i gefnogi’r fargen er mwyn sicrhau ymadawiad trefnus erbyn Hydref 31, neu wynebu’r realiti o adael heb gytundeb o gwbl.
“Gall heddiw fod y diwrnod pan ydyn ni’n cael gwneud Brexit,” meddai mewn erthygl yn y Sun.
“Fe fu sawl gwawr ffals.
“Mae dyddiadau cau ar gyfer ein hymadawiad wedi mynd a dod.
“Dw i’n gofyn i bawb feddwl am ddiwedd y dydd heddiw – a dychmygu sut fydd hi pe bai’r fargen Brexit newydd wedi cael ei chymeradwyo.
“Ymhen llai na phythefnos, ar Hydref 31, fe fydden ni allan o’r Undeb Ewropeaidd.
“Byddai pennod anodd, rwygol ac ie, poenus, yn ein hanes ar ben.”
Disgwyl cryn wrthwynebiad
Er ei bositifrwydd ac optimistiaeth, mae Boris Johnson a’i fargen yn wynebu cryn wrthwynebiad, yn bennaf o du’r DUP yng Ngogledd Iwerddon.
Am nad ydyn nhw’n fodlon cefnogi’r fargen, fe fydd e’n dibynnu ar yr aelodau hynny o fewn ei blaid ei hun sydd wedi colli’r chwip, ac aelodau Llafur sydd o blaid Brexit.
Mewn ymgais i geisio darbwyllo Llafur, mae e wedi cyhoeddi cyfres o fesurau sy’n gwarchod hawliau gweithwyr.
Ond mae rhai o fewn Llafur yn wfftio’r cynnig, gyda’r arweinydd Jeremy Corbyn yn dweud y byddai ei blaid yn gwrthod cefnogi’r fargen.
Mae rhai o fewn Llafur yn galw am wrthod y fargen a chynnal ail refferendwm ar Brexit.
Mae Plaid Brexit hefyd yn gwrthwynebu’r fargen, gyda’r arweinydd Nigel Farage yn dweud nad yw’n gwireddu eu gweledigaeth ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’i bod yn ymgais i gyflwyno bargen Theresa May o’r newydd.
Mae’r SNP eisoes wedi cynnig gwelliannau sy’n gwrthod y fargen ac yn galw am ymestyn dyddiad yr ymadawiad a chynnal etholiad cyffredinol.
Ffiniau Iwerddon
Mae’r hyn sydd gan y fargen i’w gynnig o safbwynt ffiniau Iwerddon yn dal yn peri pryder.
Yn ôl y fargen, byddai Prydain yn gadael y farchnad sengl a’r Undeb Ewropeaidd ond byddai Gogledd Iwerddon yn aros o fewn yr undeb tollau a’r ardal TAW, sy’n golygu y bydd yn dal yn dod o dan reolaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y meysydd hynny.
Ar ddiwedd cyfnod o bedair blynedd, byddai pleidlais ar y trefniant hwn.
Os nad yw Prydain a’r Undeb Ewropeaidd yn gallu taro bargen ar eu perthynas erbyn diwedd cyfnod trosglwyddo, byddai ffin agored rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon.
Mae pryder gan rai y byddai’r fargen yn tanseilio ac yn dadwneud y gwaith sydd wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon.