Mae un o gynghorau sir y gogledd wedi lansio polisi newydd ar gyfer aelodau o staff sy’n dioddef o symptomau’r menopôs.

Yn ôl Cyngor Gwynedd mae’n rhan o ymrwymiad i “ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol i bob aelod o’r gweithlu”.

Yn unol â’r polisi newydd, bydd pob rheolwr o fewn y cyngor ar gael i ddarparu cymorth “yn ddi-farn ac mewn modd broffesiynol” i aelodau o staff.

“Mae’r menopôs yn rhan naturiol o fywyd pob dynes ac nid yw bob amser yn gyfnod hawdd – ond gyda’r gefnogaeth gywir, gall fod yn llawer gwell,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, yr Aelod Cabinet tros Adnoddau Dynol.

“Er nad yw pob dynes yn dioddef symptomau, bydd rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd yn dioddef symptomau yn gwella eu profiad yn y gwaith.

“Mae hyn yn well i’r unigolyn ac o fudd i’r cwsmeriaid hynny sy’n dibynnu ar staff y cyngor i fod yn darparu gwasanaethau allweddol doed a ddêl.”

Daw lansiad y polisi newydd ar Ddiwrnod Menopôs y Byd (dydd Gwener, Hydref 18).

Be’ ydy’r menopôs?

Yn ôl gwefan y Gwasanaeth Iechyd, y menopôs yw pan mae dynes yn rhoi’r gorau i gael misglwyf ac nid yw yn gallu cael babi yn naturiol mwyach.

Mae’r menopôs yn rhan naturiol o heneiddio sydd fel arfer yn digwydd i ferched rhwng 45 a 55 oed.

Rhai o symptomau amlyca’ a mwy cyffredin y cyflwr yw chwysu gyda’r nos, pyliau o deimlo yn boeth, teimlo’n isel, libido isel a phoendod yn ystod cyfathrach rywiol.