Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yr un mor bryderus ynglŷn â bargen Brexit Boris Johnson ag yr oedden nhw am un Theresa May.
Mae Prif Weinidog Prydain wedi disgrifio’r fargen a darodd gyda’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon fel “bargen newydd sy’n cymryd grym yn ôl”.
Ond yn ôl Llywydd yr FUW, Glyn Roberts, mae’r fargen “i bob pwrpas yn ddigyfnewid o’r adeg y cafodd ei chynnig gan Theresa May” o safbwynt Cymru a’r Farchnad Sengl.
“Mae’r ffaith ei fod yn ceisio mynd â ni allan o’r Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer cytundebau gyda gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd ag awydd brawychus Llywodraeth Prydain am gytundeb gyda’r Unol Daleithiau, yn codi pryderon mawr i amaethyddiaeth yng Nghymru a’r rhai sy’n ymwneud â safonau bwyd gwledydd Prydain.”
Pryder am ostwng safonau
Mae Glyn Roberts o’r farn mai “blaenoriaeth amlwg” yr Unol Daleithiau mewn unrhyw drafodaethau masnach wedi Brexit fydd cael mynediad i farchnad fwyd gwledydd Prydain.
Mae hwn yn fater o bryder iddo ef a’i undeb gan fod bwyd yn yr Unol Daleithiau yn cael ei gynhyrchu mewn ffyrdd ac i safonau sy’n “is o lawer” na’r hyn sy’n gyfreithlon yng Nghymru a gweddill yr Undeb Ewropeaidd, meddai.
“Byddai’r effaith yn hynod o niweidiol i ffermwyr Cymru a safonau bwyd gwledydd Prydain, ac mae peryg gwirioneddol y byddai gwledydd Prydain yn derbyn cytundebau yn ystod y math o drafodaethau y mae’r cytundeb hwn a’r datganiad gwleidyddol yn eu caniatáu,” ychwanega Glyn Roberts.
“Yn ogystal â gostwng safonau gwledydd Prydain, byddai peryg hefyd o golli mynediad i farchnad lewyrchus yr Undeb Ewropeaidd sydd ar garreg ein drws ar gyfer cynhyrchion fel cig oen Cymru, oherwydd y gwahanol safonau hynny.”
Brexit yn agosáu
Bydd Aelodau Seneddol yn ystyried y fargen mewn sesiwn arbennig yn San Steffan yfory (Hydref 19) – y tro cyntaf i Dŷ’r Cyffredin gwrdd ar ddydd Sadwrn oddi ar ddechrau’r 1980au.
Mae plaid y DUP eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r fargen oherwydd materion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon.
A gan nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif, mae disgwyl i Boris Johnson geisio ennill cefnogaeth drawsbleidiol i’w fargen, gan apelio at dair carfan yn benodol – Brexitwyr caled ei blaid ei hun, y cyn-Aelodau Seneddol Ceidwadol a rhai Aelodau Seneddol Llafur.
Mae disgwyl i Brexit ddigwydd mewn llai na phythefnos ar Hydref 31.