Mae Swyddog Etholiadau Plaid Cymru yn etholaeth Gorllewin Caerdydd yn dweud na ddylai’r Blaid roi ymgeisydd i sefyll yno – a hynny er mwyn helpu Neil McEvoy i ddisodli Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
Mae’r Cynghorydd Keith Parry yn cynrychioli ardal y Tyllgoed ar Gyngor Caerdydd, ac yn dal i gefnogi Neil McEvoy – er bod yr Aelod Cynulliad dadleuol wedi gadael y blaid.
Mae’r Aelod Cynulliad tros Ganol De Cymru – a gafodd ei wahardd o Blaid Cymru y llynedd – eisoes wedi dweud ei fod yn llygadu sedd Prif Weinidog Cymru yn yr etholiad nesaf, hyd yn oed os yw hynny’n golygu sefyll yn ymgeisydd annibynnol.
“Mae llawer yn teimlo’n grac a rhwystredig [ynglŷn â sefyllfa Neil McEvoy],” meddai Keith Parry wrth sôn am sut mae aelodau Plaid Cymru yn yr etholaeth yn teimlo ar hyn o bryd.
“Ar ddiwedd y dydd, mae’n ennill etholiadau yng Nghaerdydd. Yn gynharach eleni, roedd yn rhan o’r is-etholiad yr enillon ni yn ardal Trelái. Fe gipion ni’r sedd oddi ar Lafur a oedd wedi ei dal ers hanner canrif.
“Mor bell ag y mae etholiad y Cynulliad yn y cwestiwn, dydw i ddim yn credu y dylai’r blaid sefyll.”
Gorfodi ymgeisydd ar Orllewin Caerdydd
Yn ôl y Cynghorydd Keith Parry nid yw aelodau lleol Plaid Cymru wedi cael cyfle i ddewis ymgeisydd ar gyfer etholiad y Cynulliad.
Mae hynny, meddai, oherwydd bod swyddfa ganolog Plaid Cymru yn mynnu bod y dyddiad cau ar gyfer dechrau’r broses o ddewis ymgeisydd wedi pasio.
Dyw’r gangen ddim wedi dewis ymgeisydd ar gyfer etholiad San Steffan chwaith, gan na dderbynion nhw unrhyw enwebiadau erbyn y dyddiad cau swyddogol ar Hydref 10, meddai’r cynghorydd.
“Dw i wedi siarad â Gareth Clubb, Prif Weithredwr Plaid Cymru, ynglŷn â’r mater, ac roedd e o’r farn mai nhw fydd yn chwilio am ymgeiswyr os na fyddwn ni wedi dewis rhai erbyn cyfarfod y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol ym mis Tachwedd,” meddai Keith Parry wrth golwg360.
‘Dim ymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd’
Yn ôl Plaid Cymru, dydyn nhw ddim wedi dewis ymgeisydd eto i sefyll yng Ngorllewin Caerdydd ar gyfer etholiad y Cynulliad.
“Mae prosesau mewnol Plaid Cymru o ddewis ymgeiswyr ar draws Cymru yn mynd rhagddynt,” meddai llefarydd.
“Mae nifer fawr o etholaethau wedi dewis eu hymgeiswyr yn barod ac mae nifer yn tynnu at derfyn eu prosesau dewis.
“Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu mai’r Pwyllgor Ymgyrchoedd Cenedlaethol fydd yn cymryd cyfrifoldeb am y prosesau hynny yn yr eithriadau hynny ble na fydd prosesau dewis ar waith.”