Mae plentyn wedi’i ladd ar gledrau yn Bootle, Glannau Merswy.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 7yh neithiwr (nos Lun, Hydref 14) i’r darn o reilffordd ger Bedford Road.
Mae papur newydd The Liverpool Echo yn cario stori sy’n honni fod plentyn 12 oed wedi marw, yn dilyn adroddiadau fod dau blentyn ar y traciau.
Mae llefaydd ar ran yr Heddlu Trafnidiaeth yn cadarnhau fod swyddogion wedi’u galw i Bootle neithiwr, ar ôl galwad yn dweud fod rhywun wedi’i anafu.
“Fe ddaeth parafeddygon hefyd,” meddai’r llefarydd wedyn. “Ond, yn anffodus, roedd person wedi marw yn y fan a’r lle.”
Dyw’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel un amheus.