Mae cyn-bennaeth cwmni gwyliau Thomas Cook wedi dweud ei fod yn “sori” am y modd yr aeth y cwmni i’r wal.
Mae Peter Fankhauser wedi dweud wrth Aelodau Seneddol fod ffigyrau blaenllaw o fewn y cwmni yn difaru na lwyddon nhw i achub y “brand eiconig” rhag y trafferthion.
Mae gweithwyr, cwsmedriaid a chleientiaid wedi cael ei effeithio gan fethiant y cwmni.
Mae Peter Fankhauser yn un o bump pennaeth o fewn cwmni Thomas Cook sy’n rhoi tystiolaeth i Aelodau Seneddol yn San Steffan.
“Rydych wedi fy nghlywed yn dweud hyn yn barod,” meddai, “ond rwy’ i wir eisiau ei ail-adrodd o flaen aelodau’r pwyllgor hwn, pa mor flin ydyn ni oll am fethu ag achub brand eiconig a chwmni â hanes hir o fewn diwydiant y Deyrnas Unedig.”