Mae dylunydd tecstilau o Sir Ddinbych wedi cael ei ysbrydoli gan wisgoedd Samurai i greu sgarffiau denim newydd … ac mae’n defnyddio halen gan gwmni o Fôn yn y broses o’u creu.
Mae Gethin Ceidiog Hughes, 27, wedi lansio’r sgarffiau i gyd-fynd â chystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd yn Japan wedi iddo dreulio chwe mis yn cynllunio.
Wrth eu creu, bu’r dylunydd ifanc yn defnyddio llifyn (dye) ffabrig hynafol a arferai gael ei ddefnyddio gan ryfelwyr Samurai yn Japan, sef Indigo; yn ogystal â thechnegau gwehyddu traddodiadol.
Bu’n defnyddio Halen Môn wedyn – yn gymysg â finegr gwyn wedi ei ddistyllu – er mwyn rhoi gorffeniad i’r defnydd.
Dylanwad y Samurai
Yn ôl Gethin Ceidiog Hughes, mae Indigo ymhlith y llifynnau hynaf yn y byd sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer lliwio ac argraffu, ac mae’n dyddio’n ôl o leiaf 6,000 o flynyddoedd i Periw.
Daw glas nodweddiadol y llifyn o ddail y planhigion Indigo o Japan – Persicaria tinctoria – sydd â nodweddion gwrthfacterol, yn ogystal â’r gallu i wrthsefyll tân, meddai.
Ychwanega: “Arferai milwyr Samurai wisgo dillad gwreiddiol wedi eu llifio â lliw Indigo o dan eu harfogaeth fel ffordd i amddiffyn eu cyrff rhag haint ac er mwyn helpu i lanhau clwyfau.
“Heddiw, fodd bynnag, at ddibenion cynhyrchu ar raddfa fawr, mae’r lliw yn cael ei ail-greu yn bennaf trwy ddefnyddio llifynnau rhatach sy’n seiliedig ar gemegau.”
Halen Môn yn “gweithio’n dda iawn”
Darganfu Gethin Ceidiog Hughes fod halen môr o gwmni Halen Môn yn “gyfrwng gorffeniad perffaith” i’w sgarffiau, gan helpu i gloi’r lliw yn y defnydd.
“Mae Halen Môn, sydd ar gael ar garreg fy nrws, yn cael ei ddefnyddio gan nifer fawr o gogyddion Michelin,” meddai.
“Mae’n debyg bod hyd yn oed cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn mwynhau’r danteithfwyd blasus Cymreig yma.
“Ac rŵan, mae’n cael ei ddefnyddio fel cyfrwng i roi gorffeniad i’r denim yng ngogledd Cymru ac mae’n gweithio’n dda iawn.”
Bydd y sgarffiau ar gael i’w prynu gan gyflenwyr ac ar-lein o dan frand Gethin – Wilding.