Mae Michel Barnier yn credu y gallai cytundeb Brexit gael ei sicrhau o fewn y dyddiau nesaf, gan ddweud ei fod “yn dal y bosib”.

Bydd angen i Boris Johnson allu sicrhau cytundeb erbyn cyfarfod rhwng yr arweinwyr Ewropeaidd yn Brwsel dydd Iau (Hydref 17).

Heddiw (dydd Mawrth, Hydref 15) mae Michel Barnier yn dweud fod y gwaith o sicrhau cytundeb wedi bod yn “ddwys” wedi i drafodaethau fynd ymlaen tan 11 yr hwyr neithiwr (nos Lun)

“Er bod cael cytundeb yn fwy ac yn fwy anodd i fod yn onest, mae o dal yn bosib yr wythnos hon,” meddai.

“Yn amlwg mae’n rhaid i gytundeb weithio i bawb, i’r Deyrnas Unedig i gyd ac i’r Undeb Ewropeaidd yn gyfan.”