Mae byddin Twrci wedi bod yn pledu bomiau at ardaloedd Cwrdaidd yng ngogledd-ddwyrain Syria, wrth iddi barhau i ymosod am y seithfed diwrnod.
Mae adroddiadau am ymosodiadau digyfaddawd yng nghefn gwlad ardal Ras al Ayn, wedi i Twrci gyhoeddi ei bod wedi meddiannu’r dref sydd ar y ffin rhwng y ddwy wlad.
Mae awyrennau Twrci hefyd wedi cynnal o leia’ un cyrch ar yr ardal.
Ond mae gweithwyr dyngarol yn yr ardal yn dweud fod ymladdwyr Cwrdaidd wedi ail-feddiannu’r dref, tra bod adroddiadau o’r ochr arall yn dweud fod Twrci wedi dechrau ymosod hefyd ar dref Manbij.