Mae dyn a yrrodd ei gar yn fwriadol at yr heddlu a seiclwyr tu allan i Balas Westminster yn Llundain, wedi cael ei garcharu am oes yn yr Old Bailey.

Bydd Salih Khater, 30, o Birmingham yn gorfod treulio o leiaf 15 mlynedd dan glo.

Cafwyd Salih Khater yn euog yn gynharach eleni o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio ar ôl iddo yrru ei gar Ford Fiesta at gerddwr a grŵp o seiclwyr oedd wedi stopio wrth oleuadau traffig yn San Steffan ar Awst 14 y llynedd.

Roedd wedyn wedi gwrthdaro a rhwystr diogelwch wrth i ddau blismon orfod neidio allan o’i ffordd.

Cafodd yr ymosodiad ei recordio ar gamerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) a’u dangos yn y llys. Clywodd yr Old Bailey mai bwriad Salih Khater oedd achosi cyflafan a’i fod wedi “cynllwynio” yr ymosodiad “bwriadol”.

Roedd Alison Morgan QC, ar ran yr erlyniad, hefyd wedi dweud bod cymhelliad brawychol i’r ymosodiad er nad oedd y manylion ynglŷn â hynny yn glir.

Wrth ei ddedfrydu heddiw (dydd Llun, Hydref 14) dywedodd y barnwr Mrs Ustus McGowan bod Salih Khater wedi copïo brawychwyr eraill yn fwriadol gan ddweud mai ei “fwriad oedd lladd cymaint o bobl a phosib a thrwy wneud hynny, lledaenu ofn a braw.”