Mae Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon wedi dweud ei bod yn amau a fydd Llywodraeth San Steffan yn parhau i fod mewn grym i gyflwyno ei Chyllideb ar Dachwedd 6.
Wrth siarad a BBC Radio 4 dywedodd: “Ar un llaw, fel Prif Weinidog, dw i eisiau Cyllideb oherwydd rydym ni angen gwybod beth fydd y gwariant ar gyfer yr Alban y flwyddyn nesaf,” meddai.
“Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, dw i’n meddwl fod hyn yn enghraifft arall o’r Llywodraeth yn gwneud pethau i fyny wrth iddyn nhw fynd ymlaen. Dydw i ddim yn siŵr os fydden nhw mewn grym ar Dachwedd 6.
“Dyw hi ddim yn ymddangos yn sicr y byddwn ni’n gadael yr Uundeb Ewropeaidd ar Hydref 31. Mae’n risg mawr i adael heb gytundeb ond dw i’n gobeithio y byddwn ni’n gallu sicrhau estyniad i broses Erthygl 50.”
Roedd y Canghellor Sajid Javid wedi cyhoeddi bore ma ei fwriad i gyflwyno Cyllideb ar Dachwedd 6.