Yn ôl adroddiadau, mae’r pedoffeil Richard Huckle wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn y carchar.
Roedd yn cael ei ystyried yn un o bedoffiliaid gwaethaf gwledydd Prydain ac wedi cam-drin 200 o blant o Falaysia.
Roedd yn cael ei ystyried yn un o bedoffiliaid gwaethaf gwledydd Prydain ac wedi cam-drin hyd at 200 o blant o Falaysia.
Cafodd ei drywanu yng ngharchar Full Sutton yn Efrog ddydd Sul (Hydref 13) yn ôl ffynonellau.
Mae’n debyg ei fod wedi ei drywanu gyda rhyw fath o gyllell a’i ddarganfod yn ei gell.
Roedd Richard Huckle wedi cael 22 dedfryd oes yn yr Old Bailey yn 2016 am droseddau yn erbyn plant rhwng 6 mis a 12 oed.
Cafodd ei arestio ym maes awyr Gatwick yn 2014 ar ôl i’r awdurdodau yn Awstralia gysylltu gyda’r Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol. Cafwyd hyd i fwy na 20,000 o luniau anweddus a fideos ar ei gyfrifiadur.