Mae Nicola Sturgeon yn dweud y bydd hi’n ceisio caniatâd i gynnal ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban cyn diwedd y flwyddyn.
Mae disgwyl i brif weinidog yr Alban geisio gorchymyn Adran 30 “o fewn yr wythnosau nesaf”, a’r disgwyl yw y gallai’r refferendwm gael ei gynnal yn ail hanner y flwyddyn nesaf.
Cafodd Bil Refferenda yr Alban ei sefydlu gan Lywodraeth yr Alban fis Mai eleni, yn barod i fentro am refferendwm arall.
“Fe fyddwn ni’n ei wneud e ar adeg briodol pan fo’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Mae’n debygol o ddod dros yr wythnosau nesaf. Mae’n dod yn fuan.”
Mae’n dweud mai cynnal refferendwm yw’r unig ffordd o sicrhau annibyniaeth, ond mae eraill yn galw am opsiwn wrth gefn, yn debyg i’r polau sy’n cael eu cynnal o dro i dro yng Nghatalwnia, neu geisio ennill mwyafrif o seddi yn San Steffan.