Dydy gwraig diplomydd ddim bellach yn cael ei gwarchod gan y gyfraith wrth iddi gael ei hamau o achosi marwolaeth dyn 19 oed mewn gwrthdrawiad.

Mae Anne Sacoolas, 42, wedi’i hamau o achosi marwolaeth Harry Dunn trwy yrru’n beryglus ger safle’r awyrlu yn Croughton yn Swydd Northampton ar Awst 27.

Dychwelodd hi i’r Unol Daleithiau yn dilyn y gwrthdrawiad.

Ond yn ôl Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, dydy hi ddim bellach yn rhydd i aros yno heb wynebu’r canlyniadau.

Yn ôl llefarydd ar ran Anne Sacoolas, mae hi’n “torri ei chalon” yn dilyn y digwyddiad, ac yn “ymestyn ei chydymdeimlad” i deulu Harry Dunn.

Mae lle i gredu bod ei chyfreithwyr yn ystyried beth fydd ei cham nesaf, tra bod disgwyl i deulu Harry Dunn deithio i’r Unol Daleithiau i bwyso ar lywodraeth y wlad i gymryd camau yn ei herbyn.