Mae prif drafodwr Brexit yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, wedi sicrhau cytundeb gan ymysg y 27 o wledydd sy’n aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, i gynnal trafodaethau dwys ar gynnig diweddaraf Boris Johnson am gytundeb.
Y gobaith yw y bydd yno bosibilrwydd o sicrhau cytundeb Brexit erbyn yr uwchgynhadledd ddydd Iau nesaf (Hydref 17).
Daeth y datblygiad wedi i Donald Tusk ddweud fod “arwyddion positif” bellach yn dod i’r amlwg.
Mae Donald Tusk hefyd wedi croesawu datblygiadau ddaeth o gyfarfod Prif Weinidog Iwerddon Leo Varadkar a Boris Johnson ddydd Iau (Hydref 10) gan nodi fod yno bosibilrwydd o “lwybr ar gyfer cytundeb”
“Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi rhoi addewid i’r Undeb Ewropeaidd ei fod yn bwriadu cynnig datrysiad sydd yn gweithio i bawb,” meddai Donald Tusk.