Mae canolfan chwaraeon dŵr newydd wedi agor ym Mhorthcawl heddiw (Hydref 11).
Mae’r ganolfan wedi ei hadeiladu ar gyfer syrffwyr, caiacwyr, pobol sy’n mwynhau byrddau padlo yn ogystal â beicwyr a cherddwyr.
Bydd y ganolfan yn cynnig gwersi chwaraeon dŵr drwy gydol y flwyddyn, a bydd modd llogi beics ac mae yno gaffi.
Mae’r prosiect hefyd wedi adnewyddu harbwr Porthcawl er mwyn cynnig cyfleusterau gwell i bobl â chychod sy’n ymweld â’r dref glan y môr.
Mae arian gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru wedi mynd at adeiladu’r ganolfan sydd wedi costio £1.5m.
Dywed Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Dafydd Elis-Thomas, fod y ganolfan wedi ei hadeiladu er mwyn “ffocysu ymdrechion a buddsoddiadau ar brosiectau ym mhob ardal er cael effaith ar broffil Cymru mewn marchnad ryngwladol sy’n gystadleuol.”
Ac mae’r cynghorydd lleol Charles Smith yn gobeithio y bydd y ganolfan yn sefydlu ei hun fel atyniad “eiconig.”