Mae cwmni Unilever, sy’n berchen Marmite a Persil, wedi cyhoeddi cynlluniau i haneru faint o blastig mae’n ei ddefnyddio erbyn 2025.
Mae’r cwmni, sydd hefyd yn berchen brandiau fel Ben & Jerry’s a Dove, wedi dweud y bydd yn torri mwy na 100,000 tunnell o becynnau plastig o’i gadwyn gyflenwi fel rhan o ymgyrch i leihau gwastraff.
Mae’n un o’r camau diweddaraf gan y prif weithredwr Alan Jope i wneud y cwmni yn fwy gwyrdd.
Dywed y cwmni y bydd yn ceisio defnyddio mwy o blastig sydd wedi cael ei ailgylchu yn hytrach na phlastig sydd heb gael ei ddefnyddio neu ei brosesu o’r blaen.
Erbyn 2025, mae’r cwmni hefyd yn bwriadu casglu a phrosesu mwy o becynnau plastig nag mae’n gwerthu.
Dywedodd Alan Jope bod angen i gwmnïau “ail-feddwl” y modd maen nhw’n defnyddio plastig gan ddweud bod angen defnyddio deunydd pecynnu newydd er mwyn gwneud newidiadau sylweddol.
Mae WWF UK wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud bod angen i “ragor o fusnesau, cynhyrchwyr a llywodraethau gymryd mwy o gyfrifoldeb.”