Fe fydd Boris Johnson yn ceisio achub ei gynllun Brexit yr wythnos hon ar ôl i Arlywydd Ffrainc rybuddio y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn penderfynu yn y dyddiau nesaf a yw’n bosib dod i gytundeb.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth  Emmanuel Macron na ddylai Brwsel feddwl y byddai gwledydd Prydain yn ymestyn eu haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi Hydref 31.

Ond mewn galwad ffôn ddydd Sul, mae adroddiadau bod Arlywydd Ffrainc wedi dweud wrth Boris Johnson y bydd yr UE yn penderfynu cyn diwedd yr wythnos os yw cytundeb yn bosib.

Dywedodd Downing Street bod Boris Johnson wedi ei gwneud yn glir wrth arweinwyr Ewrop dros y penwythnos mai dyma fyddai’r cyfle olaf i ddod i gytundeb ond mae wedi dweud bod yn rhaid i’r Undeb Ewropeaidd gyfaddawdu.

Yn ôl Boris Johnson mae eisiau dod i gytundeb sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr ac mae’n honni bod y cynlluniau newydd wedi cael cefnogaeth Aelodau Seneddol.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog drafod gydag arweinwyr eraill Ewrop heddiw (dydd Llun, Hydref 7) ac fe allai deithio i’r cyfandir yn ddiweddarach yr wythnos hon er mwyn sicrhau cytundeb.

Llythyr 

Mae disgwyl penderfyniad heddiw (dydd Llun) i weld a yw’n bosib i’r llysoedd orfodi’r Prif Weinidog anfon llythyr yn galw am estyniad i Erthygl 50.

Ond yn ôl The Telegraph mae Boris Johnson yn fodlon mynd i’r Goruchaf Lys mewn ymgais i osgoi ysgrifennu llythyr yn gofyn am ohirio Brexit.

Yn San Steffan fe fydd Jeremy Corbyn yn cwrdd ag arweinwyr y gwrthbleidiau eraill er mwyn craffu ar gynllun Brexit newydd y Llywodraeth ac yn penderfynu pa gamau fyddan nhw’n eu cymryd.

Fe fydd yr arweinydd Llafur yn cwrdd â Liz Saville Roberts o Blaid Cymru, Ian Blackford o’r SNP, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Jo Swinson ac Anna Soubry o’r Grŵp Annibynnol dros Newid pnawn ma (dydd Llun, Hydref 7).