Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi dweud y byddan nhw’n cynnal “adolygiad llawn” wedi marwolaeth rhedwr ar ôl y ras ddoe (dydd Sul, Hydref 6).

Dywedodd Run 4 Wales bod y rhedwr wedi cael triniaeth gan y tîm meddygol brys oedd ar y cwrs a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd lle bu farw.

Roedd 27,500 o redwyr wedi cymryd rhan yn  y ras dros 13.1 milltir yn y brifddinas.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae ein cydymdeimlad dwys gyda theulu’r rhedwr a fu farw ar ôl cymryd rhan yn y digwyddiad.

“Roedd y gwasanaethau brys wedi ymateb i’r digwyddiad ofnadwy yma yn gyflym iawn ac yn broffesiynol. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r ras wedi’u llorio.”

Wrth drydar wedi’r digwyddiad dywedodd Matt Jukes, prif gwnstabl Heddlu De Cymru: “Newyddion trist iawn. Mae fy meddyliau gyda phob un sydd wedi’u heffeithio.”

Yn 2018 bu farw Ben McDonald, 25, o Gaerdydd a Dean Fletcher, 32, o Exeter ar ôl cymryd rhan yn y ras.