Mae dyn 37 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dynes 38 oed ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf.
Bu farw’r ddynes o’i hanafiadau wedi digwyddiad yn Llys Graig Y Wion, Pontypridd tua 8.10yb bore dydd Sul (Hydref 6).
Fe fu nifer o blismyn a swyddogion arfog yn bresennol yn yr ardal yn ystod y dydd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren George nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae wedi diolch i’r gymuned leol am eu cydweithrediad.
Maen nhw’n apelio am wybodaeth.