Mae rhedwr yn hanner marathon Caerdydd wedi marw yn dilyn y ras fore heddiw (dydd Sul, Hydref 6).

Cafodd y rhedwr driniaeth cyn mynd i Ysbyty Athrofaol, lle bu farw’n ddiweddarach.

Dywed y trefnwyr y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.